Cartref

	
		
	
	
	

Ysgol Gymunedol Cae’r Felin

CROESO I YSGOL CAE’R FELIN
Mae dewis yr ysgol gywir i’ch plentyn yn holl bwysig. Mae rhieni am sicrhau addysg dda i’w plant ond maent hefyd am iddynt fod yn hapus a theimlo’n ddiogel. Yn Ysgol Gymunedol Cae’r Felin credwn y gallwn gynnig pob un o’r pethau hyn. Un o’n hamcanion yw i sicrhau bod pob plentyn yn mwynhau’r profiad o ddysgu. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau amgylchedd ddiogel, symbylus a chyffrous.

Mae Ysgol Gymunedol Cae’r Felin yn lle hapus. Mae’r athrawon a’r staff cynnal yn gweithio’n ddiflino a gydag arddeliad. Mae ganddynt berthynas dda â’r plant ac ymfalchïwn yn yr addysg eang, gytbwys a llawn a ddarparwn, safonau uchel yr addysgu a’r dysgu a’r berthynas effeithiol sydd rhwng yr ysgol, y cartfref a’r gymuned. Mae’r Gymraeg yn cael lle amlwg ymhob agwedd o fywyd yr ysgol o ran iaith gwersi, iaith anffurfiol cymuned yr ysgol a rhown sylw i ddiwylliant gwerthfawr ein gwlad fel rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol.

Rdym yn gwerthfawrogiein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus.

Mae gennym bolisi drws agored. Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder, cysylltwch â ni yn syth.