Amser Cinio
12:00 — 1:00pm
Darperir cinio ysgol yng nghegin yr ysgol gan y gogyddes ai chynorthwywraig, ac yna fe weinir y cinio yn ffreutur yr ysgol. Yn ystod yr awr ginio fe gyflogir tair cynorthwywragedd i oruchwylio’r disgyblion yn ystod amser bwyta ac yna ar y buarth.
Mae’r ysgol yn defnyddio system ar lein Parent Pay i archebu a talu am ginio ysgol. Os am fwy o fanylion cysylltwch â’r ysgol. Darperir prydau bwyd am ddim i’r teuluoedd hynny sy’n gymwys – ffurflenni cais ar gael yn ar gwefan y sir.
Gall rieni baratoi pecyn bwyd os dymunir ond fe anogir hwy i ddarparu picnic iach.
Mae disgyblion y Blynyddoedd Cynnar a CA1 yn derbyn llaeth am ddim.