Datganiad Grant Amddifadedd
Ysgol Cae’r Felin
Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.
Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:
- nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
- cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
- monitro a gwerthuso effaith adnoddau
Yn 2019-20 rhoddwyd i Ysgol Gynradd Cae’r Felin ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £17,550
Yn Ysgol Gynradd Cae’r Felin mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:
- ddarparu rhaglenni ymyrraeth eang ac amrywiol ynhgyd â chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy.
- rhoi mewnbwn cynnar o safon uchel i wella sgiliau canolbwyntio a sgiliau iaith disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen
- darparu hyfforddiant penodol i weithredu rhaglenni effeithiol
- gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion eraill, y gymuned a sefydliadau eraill
- cyflwyno a defnyddio systemau olrhain data i nodi anghenion dysgwyr, targedu ymyraethau a monitro effaith.