Ein Ysgol

Ysgol gynradd Cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Cae’r Felin. Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer plant o 3 i 11 oed.

Mae Ysgol Gymunedol Cae’r Felin yng nghanol pentref Pencader. Daw’r disgyblion o bentref Pencader ac o ardaloedd New Inn, Gwyddgrug, Alltwalis a Llanfihangel ar Arth.

Mae adeilad yn ysgol yn un modern, un llawr a rennir yn bedwar dosbarth gyda neuadd fwyta a neuadd aml-bwrpas gyda lle i gyd-addoli, i gynnal gwersi addysg gorfforol a chyngherddau a ffreutur. Mae gan yr ysgol ardal allanol eang sy’n cynnwys buarth chwarae a chae.