Cylch Meithrin Pencader
Cylch Meithrin Pencader
Cae’r Felin School Pencader
Arweinydd:- Vanessa Jones
Rhif Ffôn:- 01559 389151
Sesiynau bore dydd Llun i Gwener
8.45 am – 11.45 am
Rydym ar agor yn ystod tymor yr ysgol yn unig. Gwahoddir plant 2½ oed i fynychu’r Meithrin. .
Fe ariannir plant sy’n 3 blwydd oed am 4 sesiwn yr wythnos.
Mae Cylch Meithrin Pencader yn gylch meithrin cyfrwng Cymraeg, yn sefydliad â ariannir ei hunain, yn elusen cofrestredig a leolir yn Ysgol Cae’r Felin Pencader.
Mae’n adnodd ardderchog i blant oedran cyn-ysgol i’r ardal gyfan, hyd yn oed y rhai nad ydynt yn bwriadu dod i Ysgol Cae’r Felin.
Rydym yn annog dysgu trwy chwarae gan sicrhau bod eich plentyn yn cael ei ysgogi ac yn gwneud darganfyddiadau er mwyn sicrhau troesglwyddiad esmwyth i amgychedd yr ysgol.
Mae’r Meithrin yn dilyn y Cyfnod Sylfaen gan gynnig cyfleoedd cyfoethog i’n plant ifanc. Rhennir y rhaglen waith yn 7 rhan;
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Datblygiad Personol a Chymdeithasol
- Datblygiad Mathemategol
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
- Datblygiad Corfforol
- Datblygiad Creadigol
- Datblygiad Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
Mae hyn yn gosod sylfaen gadarn i’r plant cyn iddynt ddechrau ar eu gyrfa trwy’r ysgol.