Gwybodaeth

Amcanion cyffredinol yr ysgol

  • Annog datblygiad emosiynol a chorfforol y disgyblion er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn potensial.
  • Helpu disgyblion i ddatblygu meddyliau bywiog, ymchwilgar, gan eu hannog i gwestiynu a thrafod ac ymroi i dasgiau amrywiol.
  • Datblygu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad y disgybl o’r ardal leol, iaith, diwylliant, traddodiadau a datblygiad ffisegol.
  • Datblygu gwerthoedd personol a moesau gan godi ymwybyddiaeth o barch tuag at grefydd.
  • Datblygu pob elfen o iaith, fel y gellir ei ddefnyddio i gyfathrebu’n effeithiol. Fe gynnwys hyn elfennau o wrando, siarad, darllen, ysgrifennu a gwerthfawrogi cyfraniadau llenyddol.
  • Ennill dealltwriaeth, gwybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i fywyd oedolyn: megis sgiliau cyfathrebu, meddwl, rhif a TGCH.
  • Annog y disgyblion i fynegi eu hunain yn greadigol trwy gerddoriaeth, drama, meim, celf a chrefft ac addysg gorfforol.